OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1948 (Cy. 214)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu’r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
O dan adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf Addysg 2002 caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn unrhyw drefniadau asesu sydd yn eu barn hwy yn briodol i’r cyfnod sylfaen.
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu i ddisgyblion gael eu hasesu yn y flwyddyn olaf o’r cyfnod sylfaen gan athro neu athrawes ac mae’n gosod diben yr asesiadau hynny (erthyglau 3 a 4). Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy’n rhoi effaith i’r darpariaethau a wneir gan y Gorchymyn neu yn ychwanegu atynt fel arall (erthygl 5).
Ar ben hynny, mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer dirymu trefniadau asesu’r cyfnod allweddol cyntaf a nodir yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (erthygl 1(4)).
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1948 (Cy. 214)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu’r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011
Gwnaed 29 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Awst 2011
Yn dod i rym 1 Medi 2011
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 108(2)(b)(iii), (3)(c) a (5) i (11) a 210 o Ddeddf Addysg 2002([1]) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Y Cwricwlwm
Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu
Trefniadau Asesu’r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011 a
daw i rym ar 1 Medi 2011.
(2) Mae darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau ym meysydd dysgu perthnasol plant sydd yn y flwyddyn olaf o’r cyfnod sylfaen.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
(4) Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002([2]) wedi ei ddirymu.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “deilliannau cyfnod sylfaen” (“foundation phase outcomes”) yw’r deilliannau a nodir yn y ddogfen;
ystyr “y ddogfen” (“the document”) yw’r ddogfen o’r enw “Y Cyfnod Sylfaen - Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru”([3]) a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ac sy’n pennu’r meysydd dysgu, a’r deilliannau a’r rhaglenni addysgol mewn perthynas â’r meysydd dysgu hynny;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn ŵyl y banc o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([4]);
ystyr “meysydd dysgu” (“areas of learning”) yw’r meysydd dysgu a nodir yn y ddogfen;
ystyr “meysydd dysgu perthnasol” (“relevant areas of learning”) yw—
(i) datblygiad mathemategol,
(ii) datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, ac
(iii) sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu; ac
ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw’r tymor olaf mewn blwyddyn ysgol.
Asesu gan athrawon - cyffredinol
3.—(1)(1) Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i bob disgybl gael
ei asesu gan athro neu athrawes ym mhob un o’r meysydd dysgu
perthnasol yn unol â darpariaethau’r erthygl hon ac i
gofnod ysgrifenedig o’r canlyniadau gael ei wneud gan yr
athro neu’r athrawes.
(2) Rhaid i’r disgybl gael ei asesu a rhaid i’r athro neu’r athrawes gofnodi’r canlyniadau ddim hwyrach nag ugain niwrnod gwaith cyn diwedd tymor yr haf.
Asesu gan athrawon - meysydd dysgu perthnasol
4.—(1)(1) Diben yr asesu yw penderfynu’r deilliant cyfnod sylfaen
y mae’r disgybl wedi ei gyrraedd ym mhob maes dysgu
perthnasol.
(2) Rhaid i’r cofnod o’r canlyniadau fod ar ffurf datganiad cryno o bob deilliant cyfnod sylfaen y mae’r disgybl wedi ei gyrraedd ym mhob maes dysgu perthnasol.
Pwerau ategol Gweinidogion Cymru
5. Caiff Gweinidogion Cymru wneud y darpariaethau hynny y mae’n ymddangos yn hwylus iddynt eu gwneud ac sy’n rhoi effaith lawn i’r darpariaethau a wneir o dan y Gorchymyn hwn (ac eithrio darpariaethau sy’n rhoi neu’n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(6) o Ddeddf Addysg 2002) neu sy’n ychwanegu atynt mewn ffordd arall.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
29 Gorffennaf 2011